Iwan Rheon Instagram – Mae #LivingPlanetReport newydd, mwyaf cynhwysfawr WWF, yn dangos bod maint poblogaethau bywyd gwyllt byd-eang wedi plymio 69% ar gyfartaledd ers 1970.
Dim ond 53% o’n bioamrywiaeth hanesyddol sydd ar ôl yn y DU, sy’n golygu ein bod yn un o’r gwledydd sydd â’r disbyddiad mwyaf o natur yn y byd.
Mae newid hinsawdd a cholled natur yn ddwy ochr i’r un geiniog. Rydym yn gwybod beth sy’n gyrru colled natur: ein systemau bwyd anghynaladwy, ynni, isadeiledd, ac adeiladwaith.
Ond mae’r atebion yn bodoli, a gallem ddod â’n byd nôl yn fyw.
Dim mwy o eiriau gwag, dim mwy o addewidion wedi’u torri – mae angen gweithrediad nawr. Mae angen gweithredu ar frys ar yr argyfwng hinsawdd a natur.
Un ffordd o helpu nawr yng Nghymru, yw drwy alw am Fil Amaeth newydd cryf ac uchelgeisiol i Gymru. Ewch i @wwfcymru i gael gwybod mwy neu ewch i WWF UK i weld yr adroddiad llawn.
#LPR2022 | Posted on 14/Oct/2022 17:36:13



